Mae'n bryd i ni ganu
ni gawsom y fraint,
Mae'r rhyfel yn cerdded
o ochr y saint;
Mae'n Brenin ni'n dyfod
â'i gledde ar ei glun,
Fe sathrodd y gwinwryf
bob gronyn ei hun.
Caf gyda'm Hanwylyd
deyrnasu mewn hedd,
Yn mhell uwch cyrhaeddiad
holl ddychryn y bedd,
Cawn wisgo coronau
filiynau y'nghyd,
A chanmawl byth bythoedd
Iachawdwr y byd.
Y clod, a'r gogoniant,
a'r gallu, bob rhyw,
A redo fel moroedd
i enw fy Nuw,
Y dechreu a'r diwedd
o'r ddaear i'r ne',
O ras ac o haeddiant
ei hunan yw E'.
- - - - -
Mae'n bryd i ni ganu,
ni gawsom y fraint,
Mae'r rhyfel yn cerdded
o ochr y saint:
Gan hynny dechreuwch,
mae'n ddigon o bryd,
I ganu caniadau
i Brynwr y byd.
Fe safodd i fynu,
fe 'nillodd fath glod,
Bydd myrdd yn ei ganmol
tra'r nefoedd yn hod;
Efe wnaeth y cwbl,
moliennir ef byth,
Gan nefoedd a daear
yn dyrfa dilyth.
Yn awr fe orphenodd,
fe grymodd ei ben.
Mae heddyw'n meddiannu'r
holl ddaear a'r nen:
Mae'r meirw'n cyfodi,
gorchfyg'odd y hedd,
Mewn awr o gyfyngder
fe wrendy fy llef.
Fel hyn fe a'm carodd,
yn rhodd ac yn rhad,
Pa drysor mor dirfawr
a gwerthfawr a gaed!
Oen anwyl ei fynwes
a gefais yn gu,
Ac ynddo'n guddiedig
fy mywyd i sy.
Mi gê's y ffrind goreu
fyth fyth all'sai fod,
'R addewid a roddodd
ni thorrodd erio'd;
Er byw'n ei ogoniant
y'nghanol y nef,
Mewn awr o gyfyngder
fe wrendy fy llef.
William Williams 1717-91
Tonau [11.11.11.11]: gwelir: Dewch gwelwch y preseb a chofiwch yr awr Ehengodd fy nghalon 'dwy'n deall pa fodd Mi ge's y Ffrynd goreu fyth fyth all'sai fod Yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr Yr Arglwydd a'm carodd i'n rhyfedd erioed |
It is time for us to sing
we got the privilege,
The war is going
the way of the saints;
Our King is coming
with his swords on his thigh,
He trampled the winepress
every grain himself.
I shall get with my Beloved
to reign in peace,
Par above the reach
of all the dread of the grave,
Millions of us shall get to wear
crowns all together,
And extol forever and ever
the Saviour of the world.
The acclaim, and the glory,
and the power, every kind,
Shall run like seas
to the name of my God,
The beginning and the end
from the earth to heaven,
Of grace and of virtue
he himself is.
- - - - -
It is time for us to sing,
we got the privilege,
The war is going
the way of the saints:
Therefore begin ye,
it is high time,
To sing songs
to the King of the world.
He stood up,
he won such acclaim,
A myriad shall be extolling him
while ever the heavens be;
'Tis he made the whole,
he is to be praised forever,
By heaven and earth
an unfailing throng.
Now he finished,
he bowed his head.
Today he is possessing all
the earth and the sky:
The dead are arising,
he overcame the grave,
In an hour of straits
he will listen to my cry.
Thus he loved me,
as a gift and freely,
What treasure so precious
and valuable is found?
A beloved lamb of his bosom
I got to be dearly,
And in him hidden
my life is.
I got the best friend
that ever, ever could be,
The promise he gave
he never broke;
Although living in his glory
in the centre of heaven,
In an hour of straits
he will listen to my cry.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|